Stori'r Geni - Helen Williams & Anne Jones

Stori'r Geni - Helen Williams & Anne Jones

  • £9.99


Drama gerdd newydd yn cyflwyno hanes y Nadolig gan lefarydd, cerddorion a chantorion mewn ffordd syml ond hynod ddeniadol. Mae’r rhannau i gôr yn ddiddorol heb fod yn rhy anodd, gydag offerynnau taro a ffliwt/recorder yn cael eu hychwanegu i’r cyfeiliant gitâr/piano arferol. Mae rhannau y llefarydd yn fodd i gysylltu’r caneuon â’i gilydd ac yn gymorth i weithredu unrhyw newidiadau llwyfan pe baech am gyflwyno perfformiad llwyfan llawn o’r ddrama gerdd.

Mae Stori’r Geni yn cynnig cyfle i bawb gymeryd rhan, beth bynnag eu doniau cerddorol, ac mae’r deunydd yn addas i’w pherfformio fel drama gerdd yn ei chyfanrwydd, neu gallwch ddewis eitemau unigol o’r gwaith i’w canu mewn cyngerdd neu wasanaeth Nadolig.

Deuwch o Amgylch
Beth Oedd Enw'r Lle?
Cân Mair
Yr Asyn
Y Bugeiliaid
Y Doethion
Y Nadolig
Pa Beth yw'r Neges?


A new music-drama based on the Christmas story using a narrator, musicians and singers in a simple though highly attractive style. The choral parts are interesting without being too difficult with percussion and flute/recorder parts being added to the usual piano/guitar accompaniment.


We Also Recommend