E. Olwen Jones - Gwirioneddau

E. Olwen Jones - Gwirioneddau

  • £9.99


Mae'r gyfrol yma o 14 o ganeuon gan E. Olwen Jones yn gyfuniad o ganeuon unsain a deulais ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Ymysg y caneuon, ceir trefniannau alawon gwerin o Ynys Cuba ac Ynysoedd y Pilipinas, a chaneuon sy'n efelychu cerddoriaeth rythmig De America a'r Caribî.

 

Mae'r casgliad yn adnodd cynhwysfawr gyda'r caneuon yn addas i'w defnyddio fel sail ar gyfer gwaith traws cwricwlaidd ym meysydd Hanes a Daearyddiaeth yn ogystal. Mae'r caneuon oll yn ganadwy ac yn amrywiol o ran eu harddull. Mae cyfle i ychwanegu offerynnau traw neu di-draw at y cyfeiliant yn ogystal. Dewch ar daith gerddorol fydd yn sicr o fod yn bleser!

  • Gwirioneddau
  • Colomen Wen
  • Cofio
  • Cwsg Gwenllïan
  • Chwilio am Eira Llynedd
  • Clychau Bethlem
  • Hiraeth
  • Calypso
  • Merch y Sipsi
  • Cymylau
  • Dawns y Ceiliogod
  • El Joropo
  • Ni Ddaw Ddoe yn Ôl
  • Rhyddid

This volume of 14 songs by E. Olwen Jones is a combination of unison and two part songs for young people. Amongst the songs, there are arrangements of folk songs from Cuba and the Philippines, together with songs that imitate the musical rhythm of South America and the Caribbean.

This collection is a comprehensive resource with songs that are also suitable to use as a basis for cross-curricular work in History or Geography. The songs are not too difficult for the children and present a variety of styles. There is also an opportunity to add untuned or tuned percussion instruments to the accompaniment. Come and join us on a musical trip that will be full of pleasure.

This book is in Welsh only.


We Also Recommend